Gweithdai oedolyn

Dosbarth Meistroli
Gwanwyn – Haf 2008
Dydd Gwener 25ain Ebrill 10yb – 4yp Wendy Couling
Peintiadau Cyfrwng Cymysg a Datblygu Llyfrau Braslunio £22.50
Mae lyfrau braslunio Wendy’n byrlymu â syniadau, technegau ac yn weithiau celf eu hunain. Dechreuir ei thechnegau o golli lliwiau a gorgyffwrdd delweddau yn ei llyfrau braslunio ac wedyn fe’u trosglwyddir ar gynfas fel darnau o waith gorffennedig.
Darganfyddwch wledd o dechnegau a delweddu trwy ddatblygu sgiliau cyfrwng cymysg a thryloywluniau yn eich llyfrau braslunio. Caiff y arbrofion hyn eu trosglwyddo ar gynfas.

Dydd Gwener 23ain Mai 10yb – 4yp Ruth Thomas Collagraff / Printio £22.50
Defnyddir y gwneuthuriwr print Ruth Thoams ddeunyddiau naturiol ac amrywiol i greu ei chollograffiau haniaethol (print a greir o ludwaith). Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, bydd cyfranogwyr y gweithdy’n creu platiau printio collagraff, ac yn dysgu sut i brintio printiau ar wasg argraffu cludadwy Ruth.
Am wybodaeth pellach ar waith Ruth a’r dechneg collagraffu, ewch at www.ruththomas.net

Nodwch mai dim ond 10 lle sydd ar gael ar y gweithdy hwn.
Dydd Gwener 27ain Mehefin 10yb – 4yp Ian Williams Gwaith Print £22.50
Bydd Ian yn arddangos fel y mae’n defnyddio cerdyn, carborwndwm, glud a thâp i adeiladu plat collagraff. Byddwn yn printio’r plat gan ddefnyddio dull intaglio ar wasg ysgrythu. Bydd y printiau’n unlliw ar bapur ysgrythu. Caiff cyfranogwyr ddysgu am brif dechnegau collagraffu, incio a disodli, a phrintio intaglio.
Bydd Ian hefyd yn cynnal sgwrs am ei waith fydd yn cael ei arddangos yn yr AFG yn ystod ei weithdy, ar nos Gwener y 27ain o Fehefin, am 7yh.

Dydd Gwener 18fed Gorffennaf 10yb – 4yp Bev Bell-Hughes Crochenwaith £22.50
Profiad o greu â’ch dwylo gyda clai, gan greu ffurfiau naturiol ac organig. Caiff deunyddiau ychwanegol eu cynnwys ar y gwaith i greu ansawdd arwynebol. Bydd cyfle i danio a gwydro’ch gwaith – byss cost ychwanegol am hyn, trafodwn yn ystod y dydd.
Dim ond 10 lle ar gael ar y gweithdy hwn.

Dydd Gwener 29ain Awst 10yb – 4yp Ann Bridges Printio Mono a Phrintio £22.50
Rhoir Ann Bridges haenau i inciau tryloyw’n uniongyrchol ar wyneb y llun. Amlygir lliwiau cudd trwy ddarlunio i mewn i’r inc a sychu adrannau sydd yn wlyb. Trwy’r dull hwn, fe adeiladir cyfoethogrwydd y ddelwedd. Cyfeirir at y gweithiau gorffennedig fel printiau mono, gweithiau celf unigryw gwreiddiol.
Bydd cyfranogwyr yn defnyddio tri lliw (inciau print olew) ac yn gwneud stensiliau ac / neu’n defnyddio deunyddiau amrywiol i greu llawer o ddarnau gwaith lliwgar gan ddefnyddio pres printio.
Nodwch bod dim ond 12 lle ar gael ar y gweithdy hwn.

Dydd Gwener 19eg Medi 10yb – 4yp Jeremy Yates Gweithdy Peintio £22.50

Pris yn cynnwys cinio a lluniaeth ysgafn.
Cysylltwch â Eleri Jones AFG, Swyddog Addysg
Academi Frenhinol Gymreig
Cowny LL32 8AN
01492 593413

User login